Llyfr Eseia 65:11
Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 32:17Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
Isaiah 1:28A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.
Isaiah 11:9Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr ARGLWYDD, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr. º
Isaiah 57:5Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau. º
Isaiah 65:25Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.