Llyfr Eseia 66:18
Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a’u meddyliau: y mae yr amser yn dyfod, i gasglu yr holl genhedloedd a’r ieithoedd; a hwy a ddeuant, ac a welant fy ngogoniant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 31:21Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: o herwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddyw, cyn dwyn o honof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.
Psalms 67:2Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
Psalms 72:17O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
Psalms 86:9Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
Isaiah 2:2A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr ARGLWYDD wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn.ddyrchafedig goruwch y bryniau, a’r holl genhedloedd a ddylifant ato.
Isaiah 40:5A gogoniant yr ARGLWYDD a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd â’i gwel; canys genau yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. º