Llyfr Jeremeia 1:14
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 41:25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. º
Jeremiah 6:1Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgom; a chodwch ffagl yn Beth-haccerem: canys drwg a welir o’r gogledd, a dinistr mawr.
Jeremiah 10:22Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.
Jeremiah 31:8Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. º
Jeremiah 50:9Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynull.. eidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfar1-wydd; ni ddychwelant yn ofer. º
Ezekiel 1:4Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, a chwmmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr.