Llyfr Jeremeia 1:19
Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 129:2Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
Jeremiah 11:19A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.
Jeremiah 15:10Gwae fi, fy mam, ymddwyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i. º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd. º
Jeremiah 18:18Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. º
Jeremiah 20:10Canys clywais ogaa llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol a mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddy* wedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno. º
Jeremiah 26:8A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. º