Llyfr Jeremeia 10:6
Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.
Beibl (1620)
In The King James Version
Forasmuch as there is none like unto thee, O LORD; thou art great, and thy name is great in might.
In Context
Cross References
Exodus 9:14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bläau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.
Deuteronomy 32:31Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.
2 Samuel 7:22Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau
Nehemiah 4:14A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.
Psalms 35:10Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.
Psalms 86:8Gwrandawaf beth a ddywed yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd.