Llyfr Jeremeia 11:5
Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O AR¬GLWYDD, felly y byddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 22:16Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Exodus 13:5¶ A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.
Deuteronomy 6:3¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Deuteronomy 27:15Melldigedig yw y gwr a wnel ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd-dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylaw crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a attebant, ac a ddywedant, Amen.
Psalms 105:8Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.