Llyfr Jeremeia 12:12
Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:33Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.
Isaiah 57:21Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.
Jeremiah 3:2Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir a’th buteindra, ac a’th ddrygioni.
Jeremiah 8:15Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
Jeremiah 47:6O cleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd m lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw. º