Llyfr Jeremeia 12:17
Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
But if they will not obey, I will utterly pluck up and destroy that nation, saith the LORD.
In Context
Cross References
Isaiah 41:11Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. º
Jeremiah 12:14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt.
Jeremiah 31:28Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD. º
Daniel 7:4Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr: edrychais hyd oni thynnwyd ei adenydd, a’i gyfodi oddi wrth y ddaear, a sefyll ohono ar ei draed fel dyn, a rhoddi iddo galon dyn.
Micah 5:14Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd, a dinistriaf dy ddinasoedd.
Luke 19:27A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynascnt i mi dcyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.