Llyfr Jeremeia 12:4
Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddy¬wedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 107:34Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:
Isaiah 24:6Am hynny melltim a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd. º
Jeremiah 4:28Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi. Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.
Jeremiah 5:31Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
Jeremiah 9:9Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
Jeremiah 14:2Galara Jwda, a’i phyrth a lesgant; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerw¬salem a ddyrchafodd i fyny.