Llyfr Jeremeia 12:5
O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 3:15A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, y’nghwrr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhauaf,)
Psalms 42:7Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
Proverbs 3:11Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;
Jeremiah 26:8A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. º
Jeremiah 38:4Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed. º
Jeremiah 50:44Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i? º