Llyfr Jeremeia 13:27
Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd-dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerw¬salem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
26Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.
Cross References
Isaiah 57:7Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. º
Jeremiah 2:20Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
Jeremiah 3:6A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.
Jeremiah 4:14O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion?
Jeremiah 5:8Oeddynt fel meirch porthiannus y bore, gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.