Llyfr Jeremeia 14:12
Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf, bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.
Cross References
Proverbs 1:28Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:
Proverbs 21:27Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?
Isaiah 1:11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
Isaiah 58:3Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac ms gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion. º
Jeremiah 7:21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.
Jeremiah 11:11Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.: