Llyfr Jeremeia 14:15
Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am y proffwydi sydd yn proff¬wydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proff¬wydi hynny.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 22:25A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elycb di o ystafell i ystafell i ymguddio. º
Jeremiah 6:15A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant, yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 8:13Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
Jeremiah 23:14Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra. º
Jeremiah 29:20Gan hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon: º
Ezekiel 13:9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen ty Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.