Llyfr Jeremeia 15:19
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:12Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
Exodus 6:29Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.
Leviticus 14:57I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahan-glwyf.
Proverbs 22:29A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.
Jeremiah 1:9Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.
Jeremiah 15:10Gwae fi, fy mam, ymddwyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i. º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd. º