Llyfr Jeremeia 16:12
A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 8:21A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
Deuteronomy 29:19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
1 Samuel 15:23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. º
Ecclesiastes 9:3Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul, sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
Jeremiah 7:26Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.
Jeremiah 13:10Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.