Llyfr Jeremeia 16:5
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 15:5Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.
Jeremiah 13:14Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR¬GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
Jeremiah 16:6A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt. º
Ezekiel 24:17Taw a llefain, na wna farwaad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion.
Revelation 6:4Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.