Llyfr Jeremeia 17:26
Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd-offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 15:21¶ A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Judah, tu a therfyn Edom, ar du y dehau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
Ezra 3:11A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
Psalms 116:17Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
Jeremiah 32:44Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 33:13Yn ninasoedd y mynydd, yn ninas? oedd y gwastad, ac yn ninas oedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylch¬oedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr a defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD. º
Hebrews 13:15Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef.