Llyfr Jeremeia 19:15
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 36:16Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.
Nehemiah 9:29A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
Jeremiah 7:26Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.
Jeremiah 13:11Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dy^ Israel a holl dy^ Jwda lynu wrthyf, medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
Jeremiah 18:11Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda. º
Jeremiah 25:4A’r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clusti glywed. º