Llyfr Jeremeia 19:4
Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogl-darthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 13:6¶ Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau;
Deuteronomy 28:20Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodech dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinystrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i.
Deuteronomy 28:64A’r Arglwydd a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwrr i’r ddaear hyd y cwrr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen.
Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
Judges 5:8Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?
2 Kings 21:16Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º