Llyfr Jeremeia 19:7
A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:17Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
Deuteronomy 28:25Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
2 Kings 21:14A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion: º
Psalms 33:10Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.
Proverbs 21:30Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.
Isaiah 28:17A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches. º