Llyfr Jeremeia 2:31
O genhedlaeth, gwelwch air yr ARGLWYDD: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 8:12Rhag wedi i ti fwytta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
2 Samuel 12:7A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDO DDUW Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: º
2 Chronicles 31:10Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dy Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr ARGLWYDD, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr ARGLWYDD a fendithiodd ei bobl; a’r gweddill yw yr amldra hyn.
Job 21:14Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.
Psalms 12:4Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.