Llyfr Jeremeia 20:16
A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:25Felly y dinystriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
Deuteronomy 29:23A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaen-dardda, ac na ddaw i fynu un llysieuyn ynddo, fel dinystr Sodom a Gomorrah, Admah a Seboim, y rhai a ddinystriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint:
Jeremiah 18:8Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. º
Jeremiah 26:13Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw; ac fe a edifarha yr ARGLWYDD am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn. º
Ezekiel 21:22Yn ei law ddcau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safh mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn -erbyn y pyrth, i twrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa.
Hosea 11:8Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.