Llyfr Jeremeia 20:6
A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:17Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
Isaiah 9:15Yr hcnwr a’r anrhydeddas yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwyddi-efe yw y gynffon. º
Jeremiah 6:13Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd dod: ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.
Jeremiah 14:13Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.
Jeremiah 14:16A’r bobl y rhai y maent yn proff¬wydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
Jeremiah 23:14Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra. º