Llyfr Jeremeia 20:8
Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar¬gerdd i mi beunydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 2:23Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.
Isaiah 57:4Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi? º
Jeremiah 5:1Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.
Jeremiah 5:15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.
Jeremiah 6:7Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.
Jeremiah 7:9Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;