Llyfr Jeremeia 22:28
Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
27Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno. º
29O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr ARGLWYDD. º
Cross References
1 Samuel 5:3A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le.
1 Chronicles 3:17A meibion Jechoneia; Asshr, Salathiel ei fab yntau,
Jeremiah 14:18Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.
Jeremiah 16:12A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; º
Jeremiah 22:30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had efun a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.
Jeremiah 48:38Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr ARGLWYDD. º