Llyfr Jeremeia 22:6
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am dy brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 37:25A hwy a eisteddasant i fwytta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aipht, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.
Psalms 107:34Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:
Isaiah 6:11Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,
Isaiah 27:10Eto y ddinas gadarn fydd unig, a’r annedd wedi ei adael, a’i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd ac y difa ei blagur hi. º
Jeremiah 4:7Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
Jeremiah 7:34Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.