Llyfr Jeremeia 23:1
GWAE y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr ARGLWYDD. º
Beibl (1620)
In The King James Version
Woe be unto the pastors that destroy and scatter the sheep of my pasture! saith the LORD.
In Context
Cross References
Jeremiah 2:8Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr ARGLWYDD? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.
Jeremiah 10:21Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.
Jeremiah 22:22A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni. º
Jeremiah 23:11Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 50:6Fy mhobl a fu fel praidd colledigs eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa. º
Ezekiel 22:25Cydfradwriaeth ei phroffwydi o'i mewn, sydd fel Hew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o'i mewn.