Llyfr Jeremeia 23:3
A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wiedydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhant xxxx ac y chwanegant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 30:3Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymmer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di.
Isaiah 11:11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Isaiah 43:5Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. º
Jeremiah 29:14A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelafi eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai; y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono. º
Jeremiah 31:8Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. º
Jeremiah 50:19A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. º