Llyfr Jeremeia 23:6
Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 33:28Israel hefyd a drig ei hun yn ddïogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.
Psalms 45:5Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.
Isaiah 2:4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Isaiah 9:6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º
Isaiah 32:1WELE, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion’a lywodraethant mewn barn. º
Isaiah 33:5Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. º