Llyfr Jeremeia 24:8
Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 13:7Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.
Jeremiah 24:2Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced. º
Jeremiah 29:16Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud;, º
Jeremiah 32:28Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. º
Jeremiah 37:10Canys pe trawech chwi holl lu y. Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân. º
Jeremiah 38:18Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddina hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt. º