Llyfr Jeremeia 25:14
Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu him. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 137:8Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:
Isaiah 14:2Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr. º
Isaiah 66:6Llef soniarus o’r ddinas, llef o’r deml, llef yr ARGLWYDD yn talu y pwyth i’w elynion. º
Jeremiah 32:19Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl; ffrwyth ei weithredoedd; º
Jeremiah 50:29Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel. º
Jeremiah 51:6Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei him: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r ARGLWYDD; efe a dal y pwyth iddi hi. º