Llyfr Jeremeia 25:33
A lladdedigion yr ARGLWYDD a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gŵr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 79:3Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni,
Isaiah 5:25Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
Isaiah 66:16Canys yr ARGLWYDD a ymddadlau â thân ac a’i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr ARGLWYDD fyddant arni. º
Jeremiah 9:21Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd.
Jeremiah 16:4O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º
Ezekiel 21:11Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, i'w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i'w roddi yn llaw y lleiddiad.