Llyfr Jeremeia 25:34
Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
35Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc. º
Cross References
2 Chronicles 36:10Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR¬GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
Isaiah 2:16Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
Isaiah 30:14Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tan o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos. º
Isaiah 34:6Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd "o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed wyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom. º
Jeremiah 4:8Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr ARGLWYDD ni throes oddi wrthym ni.
Jeremiah 6:26Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.