Llyfr Jeremeia 26:4
A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais-ger eich bron, º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:8A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?
Deuteronomy 11:32Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddyw.
Deuteronomy 29:18Rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
Deuteronomy 31:20Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwyttao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dïeithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddymma fy nghyfammod.
Joshua 23:15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
2 Chronicles 7:19Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: