Llyfr Jeremeia 26:8
A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 36:16Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.
Jeremiah 2:30Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.
Jeremiah 12:5O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?
Jeremiah 20:1PAN glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; º
Jeremiah 20:8Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar¬gerdd i mi beunydd. º
Amos 7:10Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.