Llyfr Jeremeia 28:11
A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proff¬wyd a aeth i ffordd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jere¬meia y proffwyd, ac a’i torrodd ef. º
Cross References
1 Kings 13:18Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a. lefarodd wrthyf trwy air yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. º
1 Kings 22:11A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. º
2 Chronicles 18:22Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti..
Jeremiah 14:14Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff¬wydo i chwi.
Jeremiah 27:2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wthyf, Gwna i ni rwymau a gefynnau a dod hwynt am dy wddf;. º
Jeremiah 29:9Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais’ i mohonynt, medd yr ARGLWYDD. º