Llyfr Jeremeia 28:15
Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 13:6¶ Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau;
1 Kings 22:23Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti. º
Jeremiah 20:6A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog. º
Jeremiah 23:31Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai a lymhant eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywed¬odd. º
Jeremiah 28:11A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proff¬wyd a aeth i ffordd. º
Jeremiah 29:31Anfon at yr holl gaethglud, gan ddy¬wedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd: º