Llyfr Jeremeia 28:4
Ac mi a ddygaf Jechoniah mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:13Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, rhag eich bod yn gaeth-weision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
2 Kings 25:27Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o’r carchardy.
Jeremiah 2:20Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
Jeremiah 22:10Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wyl¬wch am yr hwn sydd yn myned ymaith’: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wel wlad ei enedigaeth. º
Jeremiah 22:26Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw. º
Jeremiah 24:5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais O’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. º