Llyfr Jeremeia 29:27
Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 25:16A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.
Jeremiah 29:26Yr ARGLWYDD a’th osododd di yn: offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion:;’’ º
Amos 7:12Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda, a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:
John 11:47Yna yr arch-offeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
Acts 5:28Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â’ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
2 Timothy 3:8Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd.