Llyfr Jeremeia 29:8
Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Jeremiah 14:14Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff¬wydo i chwi.
Jeremiah 23:21Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. º
Jeremiah 23:27Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw ttwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. º
Jeremiah 27:14Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proff¬wydo celwydd i chwi. º
Jeremiah 28:15Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. º
Jeremiah 29:21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi. º