Llyfr Jeremeia 3:10
Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi.
11A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
Cross References
2 Chronicles 34:33Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr AR¬GLWYDD eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl ARGLWYDD DDUW eu tadau.
Psalms 66:3Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
Isaiah 10:6At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis torn yr heolydd. º
Jeremiah 9:1O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl!
Hosea 7:14Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.