Llyfr Jeremeia 3:12
Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
Cross References
Deuteronomy 30:2A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid:
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
2 Kings 18:1AC yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab AA- Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda. º
2 Chronicles 30:9Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel¬wch ato ef.
Psalms 86:5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
Psalms 103:8Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.