Llyfr Jeremeia 3:25
Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched.
Cross References
Judges 2:2Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
Ezra 9:7Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
Psalms 106:7Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
Proverbs 5:13Ac na wrandewais at lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr!
Isaiah 48:8Ie, nis dywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr. º
Jeremiah 2:2Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerw¬salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.