Llyfr Jeremeia 30:11
Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Oblegid fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll. º
Cross References
Exodus 34:7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
Psalms 6:1I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd. Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
Isaiah 27:7A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef? º
Jeremiah 1:8Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 4:27Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.
Jeremiah 5:18Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.