Llyfr Jeremeia 30:24
Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn...
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys. º
Cross References
Genesis 49:1ac yn marw. Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.
Deuteronomy 4:30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef:
1 Samuel 3:12Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith.
Isaiah 14:24Tyngodd ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif; º
Isaiah 46:11Yn galw aderyn o’r dwyrain,< y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf. º
Jeremiah 4:28Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi. Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.