Llyfr Jeremeia 31:15
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am. ei meibion, oherwydd nad oeddynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid a braster, a’m pobl a ddigonir a’m daioni, medd yr ARGLWYDD. º
Cross References
Genesis 5:24A rhodiodd Enoch gyd â Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymmerodd ef.
Genesis 37:35A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd am dano ef.
Genesis 42:36A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.
1 Samuel 7:17A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel, ac yno yr adeiladodd efe allor i’r ARGLWYDD.
Isaiah 22:4Am hynny y dywedais, Edrychwchf oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. º