Llyfr Jeremeia 31:33
Ond dyma y cyfamod a wnaf fi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:7Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.
2 Samuel 7:24Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, ydwyt iddynt hwy yn DDUW.
Psalms 40:8Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
Proverbs 7:3Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.
Isaiah 59:21A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
Jeremiah 24:7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon. º