Llyfr Jeremeia 31:35
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr paa ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:14¶ Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
Exodus 14:21A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
Job 26:12Efe a ranna y môr a’i nerth, ac a dery falchder â’i ddoethineb.
Job 38:33A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?
Psalms 72:5Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.
Psalms 74:13Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.