Llyfr Jeremeia 32:24
Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 32:24Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwytta gan wres poeth, a chwerw-ddinystr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirph y llwch.
2 Samuel 20:15Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Bethmaacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a’r holL bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn cur-o’r mur, i’w fwrw i lawr. º
Jeremiah 14:12Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf, bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf hwynt.
Jeremiah 16:4O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. º
Jeremiah 24:10A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.