Llyfr Jeremeia 34:16
Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun; caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:7Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
1 Samuel 15:11Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyfiawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos. º
Ezekiel 3:20Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.
Ezekiel 18:24Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ol yr holl ffieidd-dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.
Ezekiel 33:12Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuw-ioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.
Malachi 1:7Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch. Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr ARGLWYDD.